about
Welsh traditional spring carol.
lyrics
mae'r ddaear yn glasu a'r coed sydd yn tyfu
a gwyrddion yw'r gerddi mae'r llwyni mor llon
a heirdd yw'r egine a'r dail ar y dole
a blode'r perllanne pur llawnion.
os bu yn ddiweddar wedd ddu ar y ddaear
cydganodd yr adar yn gerddgar i gyd
gweld coedydd yn deilio a wnâi iddynt byncio
cydseinio drwy'n hoywfro draw'n hyfryd.
mae'r ddaear fawr ffrwythlon a'i thrysor yn ddigon
i borthi'i thrigolion yn dirion bob dydd
pe byddem ni ddynion mewn cyflwr heddychlon
yn caru'n un galon ein gilydd.
credits
from
carnowen, track
released 01 March 2011
trad. arr. by ceri 'gwal'
license
all rights reserved
feed

feeds for ,